2 Samuel 20:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y wraig o'i doethineb a aeth at yr holl bobl. A hwy a dorasant ben Seba mab Bichri, ac a'i taflasant allan i Joab. Ac efe a utganodd mewn utgorn; a hwy a wasgarwyd oddi wrth y ddinas, bob un i'w pabellau. A Joab a ddychwelodd i Jerwsalem at y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r wraig yn rhannu ei chyngor doeth gyda'r bobl. A dyma nhw'n torri pen Sheba fab Bichri, a'i daflu allan i Joab. A dyma Joab yn chwythu'r corn hwrdd, a gadawodd y fyddin y dre ac aeth pawb adre. Aeth Joab ei hun yn ôl i Jerwsalem at y brenin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe aeth y wraig yn ei doethineb at yr holl bobl; torrwyd pen Seba fab Bichri a'i daflu i Joab. Seiniodd yntau'r utgorn, gadawyd y ddinas, a gwasgarodd pawb i'w cartrefi. Dychwelodd Joab i Jerwsalem at y brenin.