2 Samuel 20:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth Dafydd i'w dŷ ei hun i Jerwsalem; a'r brenin a gymerth y deg gordderchwraig a adawsai efe i gadw y tŷ, ac a'u rhoddes hwynt mewn cadwraeth, ac a'u porthodd hwynt; ond nid aeth efe i mewn atynt hwy: eithr buant yn rhwym hyd ddydd eu marwolaeth, yn byw mewn gweddwdod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedi cyrraedd y palas yn Jerwsalem dyma Dafydd yn trefnu fod y deg cariad roedd e wedi eu gadael i ofalu am y palas i'w cadw dan warchodaeth. Trefnodd fod ganddyn nhw bopeth roedden nhw ei angen, ond gafodd e ddim perthynas gyda nhw byth eto. Buon nhw'n byw fel gweddwon, dan glo am weddill eu bywydau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i'r Brenin Dafydd gyrraedd Jerwsalem, cymerodd y deg gor-dderchwraig a adawyd i ofalu am y tu375?, a'u rhoi dan warchod; yr oedd yn rhoi eu cynhaliaeth iddynt, ond heb fynd i mewn atynt. A buont dan glo hyd ddydd eu marwolaeth, yn byw fel gweddwon.