2 Samuel 20:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwŷr Joab, a'r Cerethiaid, y Pelethiaid hefyd, a'r holl gedyrn, a aethant ar ei ôl ef; ac a aethant allan o Jerwsalem, i erlid ar ôl Seba mab Bichri.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma ddynion Joab yn gadael Jerwsalem gyda gwarchodlu'r brenin (Cretiaid a Pelethiaid) a'r milwyr gorau eraill i gyd, a mynd ar ôl Sheba fab Bichri.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dilynwyd Abisai gan Joab a'r Cerethiaid a'r Pelethiaid a'r holl filwyr profiadol, a gadawsant Jerwsalem i erlid ar l Seba fab Bichri. Pan oeddent wrth y maen mawr yn Gibeon, daeth Amasa i'w cyfarfod.