2 Samuel 20:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan oeddynt hwy wrth y maen mawr sydd yn Gibeon, Amasa a aeth o'u blaen hwynt. A Joab oedd wedi gwregysu ei gochl oedd amdano, ac arni yr oedd gwregys â chleddyf wedi ei rwymo ar ei lwynau ef yn ei wain; a phan gerddai efe, y cleddyf a syrthiai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gyrhaeddon nhw'r graig fawr sydd yn Gibeon roedd Amasa yn dod i'w cyfarfod. Roedd Joab yn ei lifrai milwrol, gyda cleddyf yn ei wain ar y belt oedd am ei ganol. Wrth iddo gamu ymlaen dyma'r cleddyf yn syrthio ar lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Joab wedi gwregysu'r fantell yr oedd yn ei gwisgo, a throsti yr oedd gwregys ei gleddyf a oedd mewn gwain wedi ei rhwymo ar ei lwynau; ac wrth iddo symud ymlaen, fe syrthiodd y cleddyf.