2 Samuel 21:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Rispa merch Aia a gymerth sachliain, a hi a'i hestynnodd ef iddi ar y graig, o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o'r nefoedd, ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd, na bwystfil y maes liw nos.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[10-11] Dyma Ritspa (partner Saul a mam dau o'r rhai gafodd eu lladd) yn cymryd sachliain a'i daenu ar graig iddi ei hun. Arhosodd yno drwy gydol y cynhaeaf haidd, hyd nes i dymor y glaw ddod. Wnaeth hi ddim gadael i adar ddisgyn at y cyrff yn ystod y dydd, nac anifeiliaid gwylltion yn y nos. Clywodd Dafydd beth oedd Ritspa wedi ei wneud
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd Rispa ferch Aia sachliain a'i daenu ar y graig iddi ei hun o ddechrau'r cynhaeaf hyd oni lawiodd diferion o'r awyr ar y cyrff. Ni adawodd i'r un aderyn rheibus ddisgyn arnynt liw dydd, nac anifail gwyllt liw nos.