2 Samuel 21:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a gladdasant esgyrn Saul a Jonathan ei fab yng ngwlad Benjamin, yn Sela, ym meddrod Cis ei dad: a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchmynasai y brenin. A bu DUW fodlon i'r wlad ar ôl hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a'i claddu gydag esgyrn Saul a Jonathan ym medd Cish (tad Saul) yn Sela, yn ardal Benjamin. Ar ôl iddyn nhw wneud popeth roedd y brenin wedi ei orchymyn, dyma'r ARGLWYDD yn ateb gweddïau pobl dros y wlad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'u claddu gydag esgyrn Saul a'i fab Jonathan yn Sela yn nhir Benjamin, ym medd ei dad Cis. Gwnaed y cwbl a orchmynnodd y brenin, ac wedi hyn derbyniodd Duw ymbil ar ran y wlad.