2 Samuel 21:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond Abisai mab Serfia a'i helpiodd ef, ac a drawodd y Philistiad, ac a'i lladdodd ef. Yna gwŷr Dafydd a dyngasant wrtho ef, gan ddywedyd, Nid ei di allan mwyach gyda ni i ryfel, rhag i ti ddiffoddi goleuni Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Abishai (mab Serwia) yn dod i helpu Dafydd a taro'r Philistiad a'i ladd. Ar ôl hyn dyma filwyr Dafydd yn tyngu iddo, “Gei di ddim dod allan i frwydro gyda ni eto! Does gynnon ni ddim eisiau i lamp Israel gael ei diffodd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fe ddaeth Abisai fab Serfia i'w helpu, a tharo'r Philistiad a'i ladd. Wedi hynny tyngodd milwyr Dafydd wrtho, "Ni chei fynd allan eto gyda ni i ryfel rhag diffodd lamp Israel."