2 Samuel 21:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu eto ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: ac Elhanan mab Jaareoregim, y Bethlehemiad, a drawodd frawd Goleiath y Gethiad; a phren ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mewn brwydr arall eto yn erbyn y Philistiaid yn Gob, dyma Elchanan fab Jair o Fethlehem yn lladd brawd Goliath o Gath (yr un oedd â gwaywffon gyda choes iddi oedd fel trawst ffrâm gwehydd!)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu rhyfel eilwaith yn Gob yn erbyn y Philistiaid, a lladdwyd Goliath o Gath gan Elhanan fab Jaare-oregim o Fethlehem; yr oedd coes gwaywffon Goliath fel carfan gwehydd.