2 Samuel 21:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a alwodd am y Gibeoniaid, ac a ymddiddanodd â hwynt; (a'r Gibeoniaid hynny nid oeddynt o feibion Israel, ond o weddill yr Amoriaid; a meibion Israel a dyngasai iddynt hwy: eto Saul a geisiodd eu lladd hwynt, o'i serch i feibion Israel a Jwda.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Doedd pobl Gibeon ddim yn Israeliaid. Nhw oedd yn weddill o'r Amoriaid, ac roedd yr Israeliaid wedi addo byw yn heddychlon â nhw. Ond roedd Saul wedi ceisio cael gwared â nhw am ei fod mor frwd dros Israel a Jwda.) Felly dyma'r Brenin Dafydd yn galw pobl Gibeon ato iddo gael siarad â nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd y brenin drigolion Gibeon a'u holi. Nid Israeliaid oedd y Gibeoniaid, ond gweddill o'r Amoriaid, ac yr oedd yr Israeliaid wedi gwneud cytundeb heddwch hwy; eto yr oedd Saul wedi ceisio'u difa yn ei sl dros yr Israeliaid a'r Jwdeaid.