2 Samuel 21:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'u rhoddes hwynt yn llaw y Gibeoniaid; a hwy a'u crogasant hwy yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD: a'r saith hyn a gydgwympasant, ac a roddwyd i farwolaeth yn y dyddiau cyntaf o'r cynhaeaf, yn nechreuad cynhaeaf yr haidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoddodd nhw yn nwylo pobl Gibeon, i'w crogi ar y mynydd o flaen yr ARGLWYDD. Cafodd y saith eu lladd gyda'i gilydd. Roedd hyn reit ar ddechrau'r cynhaeaf haidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trosglwyddodd hwy i'r Gibeoniaid, a chrogasant hwythau hwy yn y mynydd o flaen yr ARGLWYDD; syrthiodd y saith ohonynt gyda'i gilydd. Lladdwyd hwy yn nyddiau cyntaf y cynhaeaf, ar ddechrau'r cynhaeaf haidd.