2 Samuel 23:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad. A'r Philistiaid a ymgynullasent yn dorf; ac yr oedd yno ran o'r maes yn llawn o ffacbys: a'r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y nesaf wedyn oedd Samma fab Age o deulu Harar. Un tro roedd byddin y Philistiaid wedi casglu yn Lechi lle roedd cae o ffacbys. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen y Philistiaid,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y nesaf at hwnnw oedd Samma fab Age yr Harariad. Pan ddaeth y Philistiaid ynghyd yn Lehi, lle'r oedd rhandir yn llawn ffacbys, ffodd y bobl rhag y Philistiaid;