2 Samuel 23:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Abisai brawd Joab, mab Serfia, oedd bennaf o'r tri. Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a'u lladdodd hwynt: ac iddo ef yr oedd yr enw ymhlith y tri.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Abishai, brawd Joab a mab Serwia, oedd pennaeth y ‛Tri deg‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd e'n enwog fel y Tri.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Abisai brawd Joab fab Serfia oedd pennaeth y Deg ar Hugain. Chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben trichant o laddedigion; enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg ar Hugain.