2 Samuel 23:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a drawodd Eifftddyn, gŵr golygus o faint: ac yn llaw yr Eifftiad yr oedd gwaywffon; eithr efe a ddaeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftiad, ac a'i lladdodd ef â'i waywffon ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd hefyd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Lladdodd gawr o Eifftiwr, er bod gwaywffon yn llaw'r Eifftiwr, ac yntau'n ymosod heb ddim ond ffon. Cipiodd y waywffon o law'r Eifftiwr, a'i ladd 'i waywffon ei hun.