2 Samuel 23:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er nad yw fy nhŷ i felly gyda DUW; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth, a'm holl ddymuniad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ie, dyna sut mae Duw'n gweld fy nheulu! Mae wedi gwneud ymrwymiad am byth i mi. Mae'r cwbl wedi ei drefnu — mae'n siŵr o ddigwydd! Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i mi lwyddo ac yn dod â'r cwbl dw i eisiau yn wir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn sicr, onid felly y mae fy nheulu gyda Duw? Oherwydd gwnaeth gyfamod tragwyddol mi, un trefnus ym mhob cymal, a diogel. Ef yw fy nghymorth i gyd a'm dymuniad; oni rydd lwyddiant i mi?