2 Samuel 23:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo, mab Ahohi, ymhlith y tri chadarn, gyda Dafydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel, a phan aeth gwŷr Israel ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna'r nesa ato fe o'r ‛Tri Dewr‛ oedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach. Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Roedd gweddill byddin Israel wedi ffoi,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y nesaf ato ef ymysg y Tri Gwron oedd Eleasar fab Dodo, fab Ahohi; yr oedd ef gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan ddaethant ynghyd i ryfel, a'r Israeliaid yn cilio o'u blaenau.