2 Samuel 24:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Gad a ddaeth at Dafydd, ac a fynegodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, A fynni ddyfod i ti saith mlynedd o newyn yn dy wlad? neu ffoi dri mis o flaen dy elynion, a hwy yn dy erlid? ai ynteu bod haint yn y wlad dri diwrnod? Yn awr ymgynghora, ac edrych pa beth a atebaf i'r hwn a'm hanfonodd i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud, “Pa un wnei di ddewis? Tair blynedd o newyn yn y wlad? Neu tri mis o ffoi o flaen dy elynion? Neu tri diwrnod o bla drwy'r wlad? Meddwl yn ofalus cyn dweud wrtho i pa ateb dw i i'w roi i'r un sydd wedi f'anfon i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Gad at Ddafydd a'i hysbysu a dweud wrtho, "A fynni di dair blynedd o newyn yn dy wlad, ynteu tri mis o ffoi o flaen dy wrthwynebwyr tra byddant yn dy erlid, ynteu tridiau o haint yn dy wlad? Ystyria ac edrych pa ateb a roddaf i'r un a'm hanfonodd."