2 Samuel 24:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Dafydd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: bid i mi syrthio yn awr yn llaw yr ARGLWYDD, canys aml yw ei drugareddau ef, ac na chwympwyf yn llaw dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Dafydd yn ateb Gad, “Mae'n ddewis caled! Ond mae'r ARGLWYDD mor drugarog! Byddai'n well gen i gael fy nghosbi ganddo fe na gan ddynion.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Dafydd wrth Gad, "Y mae'n gyfyng iawn arnaf, ond bydded inni syrthio i law'r ARGLWYDD, am fod ei drugareddau'n aml, yn hytrach nag imi syrthio i ddwylo pobl."