2 Samuel 24:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y rhoddes yr ARGLWYDD haint yn Israel, o'r bore hyd yr amser nodedig: a bu farw o'r bobl, o Dan hyd Beer‐seba, ddeng mil a thrigain o wŷr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly'r bore hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn anfon haint ar wlad Israel wnaeth bara am dri diwrnod, a buodd saith deg mil o bobl o bob rhan o'r wlad farw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly dewisodd Dafydd yr haint. Yr oedd yn dymor y cynhaeaf gwenith, ac anfonodd yr ARGLWYDD haint ar Israel o'r bore hyd derfyn y cyfnod penodedig. Bu farw deng mil a thrigain o'r bobl o Dan i Beerseba.