2 Samuel 24:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan estynasai yr angel ei law at Jerwsalem i'w dinistrio hi, edifarhaodd ar yr ARGLWYDD y drwg hwn, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio y bobl, Digon bellach: atal dy law. Ac angel yr ARGLWYDD oedd wrth lawr dyrnu Arafna y Jebusiad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wrth i'r angel bwyntio ei fys at Jerwsalem i'w difa, dyma'r ARGLWYDD yn teimlo'n sori am y niwed oedd yn cael ei wneud. A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r angel oedd wrthi'n difa'r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan estynnodd yr angel ei law yn erbyn Jerwsalem i'w dinistrio, edifarhaodd yr ARGLWYDD am y niwed, a dywedodd wrth yr angel oedd yn distrywio'r bobl, "Digon bellach! Atal dy law." Yr oedd angel yr ARGLWYDD yn ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebusiad.