2 Samuel 24:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y brenin a ddywedodd wrth Joab tywysog y llu oedd ganddo ef, Dos yn awr trwy holl lwythau Israel, o Dan hyd Beer‐seba, a chyfrif y bobl, fel y gwypwyf rifedi y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Joab, pennaeth ei fyddin, “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl lwythau Israel, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, i mi gael gwybod maint y fyddin sydd gen i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly fe ddywedodd y brenin wrth Joab, a swyddogion y fyddin oedd gydag ef, "Dos drwy holl lwythau Israel o Dan i Beerseba a chyfrifa'r bobl, er mwyn imi wybod eu nifer."