2 Samuel 3:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Abner wrth Dafydd, Mi a gyfodaf ac a af, ac a gasglaf holl Israel at fy arglwydd frenin, fel y gwnelont gyfamod â thi, ac y teyrnasech di ar yr hyn oll a chwennych dy galon. A Dafydd a ollyngodd Abner ymaith; ac efe a aeth mewn heddwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Abner yn dweud wrth Dafydd, “Gad i mi fynd i gasglu Israel gyfan at fy meistr y brenin. Cân nhw wneud cytundeb gyda ti. Wedyn byddi'n frenin ar y cwbl roeddet ti wedi gobeithio amdano.” A dyma Dafydd yn gadael i Abner fynd yn heddychlon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Abner wrth Ddafydd, "Yr wyf am fynd yn awr i gasglu Israel gyfan ynghyd at f'arglwydd frenin, er mwyn iddynt wneud cyfamod thi; yna byddi'n frenin ar y cyfan yr wyt yn ei chwenychu." Gadawodd Dafydd i Abner fynd ymaith, ac aeth yntau mewn heddwch.