2 Samuel 3:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele weision Dafydd a Joab yn dyfod oddi wrth y dorf, ac anrhaith fawr a ddygasent hwy ganddynt: ond nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron; canys efe a'i gollyngasai ef ymaith, ac yntau a aethai mewn heddwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Joab a rhai o ddynion Dafydd yn cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi bod ar gyrch ac wedi dod â llawer o bethau yn ôl gyda nhw. (Doedd Abner ddim yn Hebron erbyn hynny, am fod Dafydd wedi gadael iddo fynd yn heddychlon.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar hynny, cyrhaeddodd dilynwyr Dafydd gyda Joab; yr oeddent wedi bod ar gyrch, ac yn dwyn llawer o ysbail gyda hwy. Nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron, oherwydd bod Dafydd wedi gadael iddo fynd mewn heddwch.