2 Samuel 3:34 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi mewn egwydydd: syrthiaist fel y syrthiai un o flaen meibion anwir. A'r holl bobl a chwanegasant wylo amdano ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doeddet ddim wedi dy glymu; doedd dy draed ddim mewn cyffion; Ond syrthiaist fel dyn wedi ei ladd gan rai drwg.” A dyma pawb yn wylo drosto eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"A oedd raid i Abner farw fel ynfytyn? Nid oedd dy ddwylo wedi eu rhwymo, na'th draed ynghlwm mewn cyffion. Syrthiaist fel un yn syrthio o flaen rhai twyllodrus." Ac yr oedd yr holl bobl yn parhau i wylo drosto.