2 Samuel 3:35 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara, a hi eto yn ddydd, Dafydd a dyngodd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo DUW i mi, ac fel hyn y chwanego, os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo'r haul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ei ddynion yn ceisio perswadio Dafydd i fwyta rhywbeth cyn iddi nosi. Ond dyma Dafydd yn mynd ar ei lw. “Boed i Dduw ddial arna i os gwna i fwyta darn o fara neu unrhyw beth arall cyn i'r haul fachlud!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y bobl i gyd i gymell Dafydd i fwyta tra oedd yn olau dydd; ond aeth Dafydd ar ei lw, "Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os cyffyrddaf bara neu ddim oll cyn machlud haul."