2 Samuel 3:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond i Saul y buasai ordderchwraig a'i henw Rispa, merch Aia: ac Isboseth a ddywedodd wrth Abner, Paham yr aethost i mewn at ordderchwraig fy nhad?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Saul yn fyw roedd ganddo bartner o'r enw Ritspa, merch Aia. A dyma Ish-bosheth, mab Saul, yn cyhuddo Abner a gofyn iddo, “Pam wnest ti gysgu gyda partner fy nhad?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu gan Saul ordderch o'r enw Rispa ferch Aia; a phan ddywedodd Isboseth wrth Abner, "Pam yr aethost i mewn at ordderch fy nhad?"