2 Samuel 3:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y digiodd Abner yn ddirfawr oherwydd geiriau Isboseth, ac a ddywedodd, Ai pen ci ydwyf fi, yr hwn ydwyf heddiw yn erbyn Jwda yn gwneuthur trugaredd â thŷ Saul dy dad di, â'i frodyr, ac â'i gyfeillion, a heb dy roddi di yn llaw Dafydd, pan osodaist i'm herbyn fai am y wraig hon heddiw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwylltiodd Abner pan ddwedodd hynny, ac meddai, “Ai rhyw gi o Jwda ydw i? Dw i wedi bod yn ffyddlon hyd heddiw i deulu Saul dy dad, a'i frodyr a'i ffrindiau. Dw i ddim wedi dy fradychu di i ochr Dafydd. A dyma ti heddiw yn fy nghyhuddo i o bechu gyda'r wraig yna!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fe lidiodd Abner yn fawr oherwydd geiriau Isboseth, ac atebodd, "Ai penci ar ochr Jwda wyf fi? Hyd yma bm yn deyrngar i deulu dy dad Saul, ac i'w berthnasau a'i gyfeillion; ac ni adewais i ti syrthio i ddwylo Dafydd, a dyma ti heddiw yn edliw imi drosedd gyda benyw.