2 Samuel 4:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan fynegodd un i mi, gan ddywedyd, Wele, bu farw Saul, (ac yr oedd yn ei olwg ei hun megis un yn dwyn llawen chwedl,) mi a ymeflais ynddo, ac a'i lleddais ef yn Siclag, yr hwn a dybiasai y rhoddaswn iddo obrwy am ei chwedl:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth rhyw ddyn ata i i Siclag i ddweud fod Saul wedi marw, roedd yn meddwl ei fod yn dod â newyddion da. Ond dyma fi'n gafael ynddo a'i ladd! Dyna oedd y wobr gafodd e am ei ‛newyddion da‛!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
pan ddaeth un i'm hysbysu fod Saul wedi marw, gan dybio'i fod yn dwyn newydd da, fe gydiais ynddo a'i ladd yn Siclag; dyna a roddais i hwnnw am ei newyddion!