2 Samuel 4:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a orchmynnodd i'w lanciau; a hwy a'u lladdasant hwy, ac a dorasant eu dwylo hwynt a'u traed, ac a'u crogasant hwy uwchben y llyn yn Hebron. Ond pen Isboseth a gymerasant hwy, ac a'i claddasant ym meddrod Abner, yn Hebron.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Dafydd yn gorchymyn i'w filwyr ladd y ddau. Wedyn dyma nhw'n torri eu dwylo a'u traed i ffwrdd, a hongian y cyrff wrth y pwll yn Hebron. Ond dyma nhw'n cymryd pen Ish-bosheth, a'i gladdu lle roedd bedd Abner hefyd, yn Hebron.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd Dafydd orchymyn i'w lanciau, a lladdasant hwy, a thorri eu dwylo a'u traed i ffwrdd, a'u crogi wrth y pwll yn Hebron. Yna cymerwyd pen Isboseth a'i gladdu ym meddrod Abner yn Hebron.