2 Samuel 4:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dafydd i Hebron; ac a ddywedasant wrth y brenin, Wele ben Isboseth mab Saul, dy elyn di, yr hwn a geisiodd dy einioes di: a'r ARGLWYDD a roddes i'm harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul, ac ar ei had.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dod â phen Ish-bosheth i'r brenin Dafydd yn Hebron, a dweud wrtho, “Dyma ben Ish-bosheth, mab Saul, dy elyn oedd yn ceisio dy ladd di. Heddiw mae'r ARGLWYDD wedi dial ar Saul a'i deulu ar ran ein meistr y brenin.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant phen Isboseth at Ddafydd i Hebron, a dweud wrth y brenin, "Dyma ben Isboseth, mab Saul, dy elyn oedd yn ceisio dy fywyd. Rhoddodd yr ARGLWYDD ddial heddiw i'n harglwydd frenin ar Saul a'i blant."