2 Samuel 5:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a aeth rhagddo, ac a gynyddodd yn fawr; ac ARGLWYDD DDUW y lluoedd oedd gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, gydag e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cynyddodd Dafydd fwyfwy, ac yr oedd ARGLWYDD Dduw y Lluoedd o'i blaid.