2 Samuel 5:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a gymerodd eto ordderchwragedd a gwragedd o Jerwsalem, wedi iddo ddyfod o Hebron: a ganwyd eto i Dafydd feibion a merched.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedi iddo symud o Hebron i Jerwsalem dyma Dafydd yn cymryd mwy o gariadon a gwragedd, ac yn cael mwy o blant eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo ddod o Hebron, cymerodd Dafydd ragor o ordderch-wragedd ac o wragedd o Jerwsalem; a ganed rhagor o feibion ac o ferched iddo.