2 Samuel 5:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a ddaeth i Baal‐perasim; a Dafydd a'u trawodd hwynt yno; ac a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a wahanodd fy ngelynion o'm blaen i, megis gwahanu dyfroedd. Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw, Baal‐perasim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly aeth Dafydd i Baal-peratsîm a'u trechu nhw yno. “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri trwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr,” meddai. A dyna pam wnaeth e alw'r lle hwnnw yn Baal-peratsîm.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly aeth Dafydd i Baal-perasim, a'u taro yno. Ac meddai Dafydd, "Torrodd yr ARGLWYDD drwy fy ngelynion o'm blaen fel toriad dyfroedd." Dyna pam yr enwodd y lle hwnnw, Baal-perasim.