2 Samuel 5:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a wnaeth megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddo ef; ac a drawodd y Philistiaid o Geba, hyd oni ddelech i Gaser.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Dafydd yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho, a taro'r Philistiaid yr holl ffordd o Geba i gyrion Geser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth Dafydd hynny, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, a tharo'r Philistiaid o Geba hyd gyrion Geser.