2 Samuel 5:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw, Pwy bynnag a elo i fyny i'r gwter, ac a drawo'r Jebusiaid, a'r cloffion, a'r deillion, y rhai sydd gas gan enaid Dafydd, hwnnw fydd blaenor. Am hynny y dywedasant, Y dall a'r cloff ni ddaw i mewn i'r tŷ.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd wedi dweud y diwrnod hwnnw, “Y ffordd mae rhywun yn mynd i goncro'r Jebwsiaid ydy drwy fynd i fyny'r siafft ddŵr. Dyna sut mae ymosod ar y ‛bobl ddall a chloff‛ yna sy'n casáu Dafydd gymaint.” (A dyna sydd tu ôl i'r dywediad, “Dydy'r dall a'r cloff ddim yn cael mynd i mewn i'r tŷ.”)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y diwrnod hwnnw fe ddywedodd Dafydd, "Pob un sydd am daro'r Jebusiaid, aed i fyny trwy'r siafft ddu373?r at y cloffion a'r deillion sy'n gas gan enaid Dafydd." Dyna pam y dywedir, "Ni chaiff y dall na'r cloff ddod i'r deml."