2 Samuel 6:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mynegwyd i'r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a fendithiodd dŷ Obed‐Edom, a'r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch DUW. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch DUW o dŷ Obed‐Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth Dafydd i glywed fod yr ARGLWYDD wedi bendithio Obed-edom a'i deulu am fod Arch Duw yno. Felly dyma Dafydd yn mynd i dŷ Obed-edom i'w nôl hi, a mynd â hi i Ddinas Dafydd, gyda dathlu mawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddywedwyd wrth y Brenin Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi bendithio teulu Obed-edom a'r cwbl oedd ganddo, o achos arch Duw, fe aeth Dafydd a chymryd arch Duw yn llawen o du375? Obed-edom i Ddinas Dafydd.