2 Samuel 6:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd arch yr ARGLWYDD yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu'r brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemain o flaen yr ARGLWYDD; a hi a'i dirmygodd ef yn ei chalon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i Arch yr ARGLWYDD gyrraedd Dinas Dafydd, roedd Michal, merch Saul, yn edrych allan drwy'r ffenest. Pan welodd hi'r brenin yn neidio a dawnsio o flaen yr ARGLWYDD, doedd hi'n teimlo dim byd ond dirmyg tuag ato.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan gyrhaeddodd arch yr ARGLWYDD Ddinas Dafydd, yr oedd Michal merch Saul yn edrych drwy'r ffenestr, a gwelodd y Brenin Dafydd yn neidio ac yn dawnsio o flaen yr ARGLWYDD, a dirmygodd ef yn ei chalon.