2 Samuel 6:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddygasant i mewn arch yr ARGLWYDD, ac a'i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dod ag Arch yr ARGLWYDD, a'i gosod yn ei lle yn y babell roedd Dafydd wedi ei chodi iddi. Yna dyma Dafydd yn cyflwyno offrymau i'w llosgi, ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant ag arch yr ARGLWYDD a'i gosod yn ei lle yng nghanol y babell a gododd Dafydd iddi, ac offrymodd Dafydd boeth-offrymau a heddoffrymau o flaen yr ARGLWYDD.