2 Samuel 6:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddywedodd, O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision, fel yr ymddiosgai un o'r ynfydion gan ymddiosg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aeth Dafydd adre i fendithio ei deulu ei hun, dyma Michal, merch Saul, yn dod allan i'w gyfarfod. Ac meddai wrtho, “Wel, wel! Dylech fod wedi gweld brenin Israel heddiw! Dyna ble roedd e yn fflachio o flaen caethferched ei swyddogion, yn dangos popeth iddyn nhw fel rhyw ffŵl coman!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth Dafydd yn l i gyfarch ei deulu, daeth Michal merch Saul i'w gyfarfod a dweud, "O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yn ei ddinoethi ei hun yng ngolwg morynion ei ddilynwyr, fel rhyw hurtyn yn dangos popeth!"