2 Samuel 6:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Dafydd wrth Michal, Gerbron yr ARGLWYDD, yr hwn a'm dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dŷ ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr ARGLWYDD, ar Israel, y chwaraeais: a mi a chwaraeaf gerbron yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Dafydd yn ei hateb, “Na, dawnsio o flaen yr ARGLWYDD oeddwn i — yr un wnaeth fy newis i yn lle dy dad a dy deulu di. Dewisodd fi yn arweinydd ar bobl Israel, pobl yr ARGLWYDD. O'i flaen e
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddai Dafydd wrthi, "Yr oedd hyn o flaen yr ARGLWYDD, a'm dewisodd i yn hytrach na'th dad na'r un o'i deulu, a gorchymyn imi fod yn arweinydd i Israel, pobl yr ARGLWYDD; yr wyf am ddangos llawenydd o flaen yr ARGLWYDD.