2 Samuel 6:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a osodasant arch DUW ar fen newydd; ac a'i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea: Ussa hefyd ac Ahio, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[3-4] Dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar gert newydd a'i symud hi o dŷ Abinadab, oedd ar ben bryn. Roedd Wssa ac Achïo, meibion Abinadab, yn arwain y cert — Wssa wrth ymyl yr Arch, ac Achïo'n cerdded o'i blaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoesant arch Duw ar fen newydd, a'i chymryd o du375? Abinadab sydd ar y bryn, ac yr oedd Ussa ac Aho, meibion Abinadab, yn tywys y fen newydd.