2 Samuel 7:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond fy nhrugaredd nid ymedy ag ef, megis ag y tynnais hi oddi wrth Saul, yr hwn a fwriais ymaith o'th flaen di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo, yn wahanol i Saul pan wnes i ei symud e o dy ffordd di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond ni chymeraf fy nhrugaredd oddi wrtho, fel y cymerais hi oddi wrth Saul pan symudais ef o'r ffordd o'th flaen.