2 Samuel 7:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth DUW i'w gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir, gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o'r Aifft, oddi wrth y cenhedloedd a'u duwiau?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A pwy sy'n debyg i dy bobl di, Israel? Mae hi'n wlad unigryw ar y ddaear — yn wlad aeth Duw i'w gollwng yn rhydd a'u gwneud yn bobl iddo'i hun. Ti'n enwog am wneud pethau rhyfeddol pan wnest ti achub dy bobl o'r Aifft a gyrru'r cenhedloedd paganaidd a'u duwiau allan o'r tir oedd gen ti ar eu cyfer nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phwy sydd fel dy bobl Israel, cenedl unigryw ar y ddaear? Aeth Duw ei hun i'w phrynu iddo'n bobl, ac i ennill bri iddo'i hun, a gwneud pethau mawr ac ofnadwy er ei mwyn, trwy fwrw allan genhedloedd a'u duwiau o flaen dy bobl, y rhai a brynaist i ti dy hun o'r Aifft.