2 Samuel 7:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Nathan a ddywedodd wrth y brenin, Dos, gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: canys yr ARGLWYDD sydd gyda thi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Nathan yn ateb, “Mae'r ARGLWYDD gyda ti. Gwna beth bynnag wyt ti'n feddwl sy'n iawn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Nathan wrth y brenin, "Dos, a gwna bopeth sydd yn dy galon, oherwydd y mae'r ARGLWYDD gyda thi."