2 Samuel 7:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd; Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Myfi a'th gymerais di o'r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn flaenor ar fy mhobl, ar Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Fi wnaeth dy gymryd di o'r caeau lle roeddet yn bugeilio defaid, a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, dywed fel hyn wrth fy ngwas Dafydd, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Myfi a'th gymerodd di o'r maes, o ganlyn defaid, i fod yn arweinydd i'm pobl Israel.