2 Samuel 8:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Toi a anfonodd Joram ei fab at y brenin Dafydd, i gyfarch gwell iddo ac i'w fendithio, am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser, a'i faeddu ef; (canys gŵr rhyfelgar oedd Hadadeser yn erbyn Toi:) a llestri arian, a llestri aur, a llestri pres ganddo:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma fe'n anfon ei fab Joram at Dafydd i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Aeth Joram â pob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fe anfonodd ei fab Joram i ddymuno'n dda i'r Brenin Dafydd a'i longyfarch am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser a'i orchfygu; oherwydd bu Hadadeser yn rhyfela'n gyson yn erbyn Toi. Dygodd Joram gydag ef lestri o arian ac o aur ac o bres,