2 Samuel 9:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thi a erddi y tir iddo ef, ti, a'th feibion, a'th weision, ac a'u dygi i mewn, fel y byddo bara i fab dy feistr di, ac y bwytao efe: a Meffiboseth, mab dy feistr di, a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i. Ac i Siba yr oedd pymtheg o feibion, ac ugain o weision.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i eisiau i ti a dy feibion, a dy weision i gyd, ofalu am y tir iddo. Bydd cynnyrch y tir yn fwyd i deulu dy feistr. Ond bydd Meffibosheth yn bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.” (Roedd gan Siba un deg pump o feibion a dau ddeg o weision.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyt ti i lafurio'r tir drosto ti, a'th blant, a'th weision a dod 'r cynnyrch yn fwyd i deulu dy feistr; ond caiff Meffiboseth, mab dy feistr, ei fwyd bob dydd wrth fy mwrdd i." Yr oedd gan Siba bymtheg o feibion ac ugain gwas.