2 Samuel 9:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Siba wrth y brenin, Yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd fy arglwydd y brenin i'w was, felly y gwna dy was. Yna y dywedodd Dafydd, Meffiboseth a fwyty ar fy mwrdd i, fel un o feibion y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Siba yn ateb, “Bydd dy was yn gwneud popeth mae fy meistr, y brenin, wedi ei orchymyn.” Felly cafodd Meffibosheth fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd y brenin, fel petai'n un o feibion y brenin ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Siba wrth y brenin, "Fe wna dy was yn union fel y mae f'arglwydd frenin yn gorchymyn iddo." Bu Meffiboseth yn bwyta wrth fwrdd Dafydd fel un o blant y brenin.