2 Samuel 9:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd gwas o dŷ Saul a'i enw Siba. A hwy a'i galwasant ef at Dafydd. A'r brenin a ddywedodd wrtho ef, Ai tydi yw Siba? A dywedodd yntau, Dy was yw efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma ddyn o'r enw Siba oedd wedi bod yn was i Saul yn cael ei alw at Dafydd. Gofynnodd y brenin iddo, “Ti ydy Siba?” Atebodd, “Ie, syr, fi ydy dy was.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gan deulu Saul was o'r enw Siba, a galwyd ef at Ddafydd. Gofynnodd y brenin iddo, "Ai Siba wyt ti?" Atebodd yntau, "Ie, dyma dy was."