2 Thessalonians 1:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
pan ddel ef y’w ’ogoneddu yn ei Sainct æ, ac y’w ryfeddu yn yr oll rei a gredant (can ys ein testiolaeth ni tu ac atoch a gredwyt) yn y dydd hwnw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac oddiwrth ogoniant Ei nerth, pan ddelo i’w ogoneddu yn Ei saint, ac i’w ryfeddu yn yr holl rai a gredasant (canys credwyd ein tystiolaeth i chwi) yn y dydd hwnw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
pan ddêl i’w ogoneddu yn Ei saint, ac i’w ryfeddu yn y rhai oll a gredodd, oblegid credwyd ein tystiolaeth i chwi, yn y dydd hwnnw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan ddêl efe i'w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu, (oherwydd i'n tystiolaeth ni yn eich mysg chwi gael ei chredu,) yn y dydd hwnnw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar y diwrnod olaf hwnnw bydd yn cael ei anrhydeddu gan ei bobl, ac yn destun rhyfeddod gan bawb sydd wedi credu. Ac mae hynny'n eich cynnwys chi, gan eich bod chi wedi credu'r cwbl ddwedon ni wrthoch chi amdano fe.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
pan ddaw, yn y Dydd hwnnw, i'w ogoneddu gan ei saint ac i fod yn destun rhyfeddod gan bawb a gredodd; oherwydd y mae'r dystiolaeth a gyhoeddwyd gennym ni i chwi wedi ei chredu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
pan ddel Efe i'w ogoneddu yn ei saint, ac i'w ryfeddu yn y rhai oll a gredasant, yn y Dydd hwnnw, (o herwydd i'n tystiolaeth ni gael ei chredu gennych chwi).