2 Thessalonians 1:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit hyn y ydd ym hefyt yn gweddiaw yn ’oystad avvl y trosoch, ar vod i’n Duw eich teilygy yvv ’alwedigeth, a’ chyflawny oll ddawyllys garvvch y ddayoni ef, a’ gwaith ffydd, gan veddiant,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac er mwyn hyn, gweddïo hefyd yr ydym yn wastadol drosoch, fel eich cyfrif chwi yn deilwng o’ch galwedigaeth a fo i’n Duw, ac y cyflawno bob boddlonrwydd daioni a gwaith ffydd, gyda gallu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Er mwyn hyn y gweddïwn hefyd yn wastadol drosoch, ar i’n Duw eich gwneuthur yn deilwng o’i alwad a chyflawni trwy Ei nerth bob awyddfryd daionus a gwaith ffydd ynoch,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddïo yn wastadol drosoch, ar fod i'n Duw ni eich cyfrif chwi'n deilwng o'r alwedigaeth hon, a chyflawni holl fodlonrwydd ei ddaioni, a gwaith ffydd, yn nerthol:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam dŷn ni'n gweddïo drosoch chi drwy'r amser — gweddïo y bydd Duw'n eich gwneud chi'n deilwng o'r bywyd mae wedi eich galw i'w fyw. Hefyd, y bydd Duw yn rhoi'r nerth i chi wneud yr holl bethau da dych chi eisiau eu gwneud, a bod yn ffyddlon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I'r diben hwn hefyd yr ydym bob amser yn gweddo drosoch chwi, ar i'n Duw ni eich cyfrif yn deilwng o'i alwad, a chyflawni trwy ei nerth bob awydd am ddaioni a phob gweithred o ffydd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Er mwyn hyn hefyd yr ydym yn gweddio yn wastadol drosoch, ar i'n Duw ni eich cyfrif yn deilwng o'ch galwedigaeth, ac y cyflawno eich pob dyhead am ddaioni, a phob gwaith ffydd, gyda gallu;